Daw Marc Jones yn enedigol o Sir y Fflint ac mae wedi
byw yn Wrecsam ers 30 mlynedd. Mae’i wraig yn nyrsio yn yr ysbyty lleol ac mae
ganddynt ddau fab.
Bu’n
gweithio fel newyddiadurwr i’r Wrexham Evening Leader, Daily Post a’r Liverpool Echo cyn mynd i weithio ym myd
teledu, gan arbenigo yn y maes ymchwiliadol efo’r Byd ar Bedwar, Taro Naw a Week In Week Out.
Mae o
hefyd wedi gweithio ar ei liwt ei hun a bu’n olygydd ar gylchgrawn Golwg cyn mynd yn swyddog y wasg i Aelod Cynulliad rhanbarthol Plaid Cymru yn
y Gogledd yn 2007.
Ymunodd â Phlaid Cymru yn 18 oed ac mae wedi bod yn wleidyddol weithredol ers hynny fel
ymgyrchydd cymunedol gyda’r mudiad gwrth-apartheid, ymgyrch yn erbyn treth y
pen ac ymgyrchoedd lleol di-rif. Bu’n weithgar yn yr ymgyrch yn erbyn
rhyfeloedd Affganistan ac Irac.
Mae’n
aelod o Undeb y Newyddiadurwyr, yr NUJ, ers 27 mlynedd ac yn credu’n gryf fod
lle canolog i undebau yn y Gymru fodern.
Bu’n
aelod o Gyngor Wrecsam rhwng 2008-12, pan lwyddodd y Blaid i ennill pedwar
cynghorydd am y tro cyntaf erioed ar yr awdurdod. Tra’n gynghorydd llwyddodd i
wireddu addewid maniffesto a chreu 54 o randiroedd newydd yn ei ward.
Er
cynnyddu ei bleidlais yn 2012, collodd o 50 pleidlais. Mae o bellach yn
gadeirydd ar gyngor cymuned Parc Caia.
Bu’n rhan
o’r grwp sefydlodd menter gydweithredol Saith Seren yn Wrecsam. sef canolfan
Gymraeg i’r dref sydd wedi llwyddo i greu gwaddol barhaol yn sgil Eisteddfod
Genedlaethol 2011. Mae’r ganolfan newydd ddathlu ei phenblwydd cyntaf, yn
cyflogi pump o bobl ac yn bwriadu ehangu wrth i’r gwaith ar y llawr cyntaf yn
dod i ben.
Dywed
Marc Jones: “Mae Saith Seren wedi llwyddo heb geiniog o grant cyhoeddus. Weithiau mae’n gwneud pethau’n fwy anodd ond, yn y pen draw, mae
popeth rydan ni wedi ei gyflawni wedi digwydd oherwydd ymroddiad y bobl sydd
wedi ymaelodi a buddsoddi. Mae’n dangos beth sy’n bosib pan mae pobl gyffredin
yn gwneud pethau anghyffredin.”
Mae’r
fenter wedi ysbrydoli rhywbeth tebyg yn y Bari.
Ar ben
hyn mae’n ymddiriedolwr elusen iechyd meddwl lleol ac ar fwrdd Ymddiriedolaeth
Cefnogwyr Wrecsam, sy’n berchen ar y clwb pêldroed.
Dywed: “Drwy sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Ewrop, hoffwn
adeiladu ar fy mhrofiad lleol o weithredu er mwyn bod yn bencampwr cymunedol
dros Gymru gyfan. Byddaf hefyd yn defnyddio fy ngwybodaeth o lansio mentrau newydd er
mwyn craffu’n ofalus ar ddefnydd o arian cyhoeddus gan gyrff Ewropeaidd.”
Mae’n
benderfynnol o wneud gwahaniaeth positif i’r Blaid:
“Ymunais â’r Blaid am y tro cyntaf yn 18 oed. Des i’n ôl i’r
Blaid yn bennaf oherwydd dylanwad gwleidyddion fel Leanne
Wood.
“Rydw
i wedi sefyll ar ran y Blaid ar gyfer y Cynulliad yn 2011 a’r cyngor sir nifer
o weithiau.
“Credaf y gallaf gyfrannu at godi proffil, gweithgaredd ac
aelodaeth y Blaid yma yng Nghymru ac Ewrop.”
DYMA MAE MARC YN DWEUD AM YR HER EWROPEAIDD
Os caf fy ethol i Ewrop fy mhlaenoriaethau fydd:
• Sicrhau taliadau CAP i ffermwyr Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol i'n ffermydd teuluol
• Herio effeithiolrwydd swyddfa grantiau Ewrop, WEFO
• Bod yn rhan allweddol o dîm y Blaid yma yng
Nghymru
• Herio biwrocratiaeth trymaidd y Gymuned Ewropeaidd
• Cydweithio a phleidiau eraill er mwyn hyrwyddo
achos Cymru a gwledydd tebyg o fewn Ewrop.
Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch a / For more
information contact:
01978 366 735
07747 792 441
@marc1ewrop
No comments:
Post a Comment