Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe

Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe
ymgyrchu ar y stryd / campaigning on the streets

Monday, 13 May 2013

Hystings hyd yma

Tri hystings hyd yma yng Nghaerffili, Caernarfon a Rhuthun. Daeth tua 160 i Gaernarfon a 70 yr un i Gaerffili a Rhuthun.
 Mae'n anodd iawn bod yn wrthrychol yng nghanol popeth ond mae pethau wedi mynd yn weddol dda hyd yma. Roedd awyrgylch y theatr yng Nghaernarfon yn siwtio llawer gwell na'r clwb rygbi a'r ganolfan gymunedol ond mae pob un wedi rhoi cyfle i siarad efo bobl newydd a chael cefnogaeth annisgwyl.
 Roedd heno'n sbeshal oherwydd fod cymaint wedi dod draw o'r Wyddgrug a Wrecsam yn arbennig.

 Roedd y cwestiynu yn parhau'n finiog ac yn atgoffa rhywun o ddywediad Gandhi:

"First they ignore you
Then they laugh at you
Then they attack you
And then you win."

Dan ni wedi cyrraedd y trydedd llinell cyn cyrraedd hanner amser!

Edrych ymlaen yn fawr at y 10 diwrnod nesaf yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd.


No comments:

Post a Comment