Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe

Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe
ymgyrchu ar y stryd / campaigning on the streets

Friday 22 March 2013

WHY YOU SHOULD VOTE FOR MARC JONES


Marc Jones is originally from Flintshire and has lived in Wrecsam for 30 years. His wife is a nurse in the local hospital and they have two sons.
 Marc worked as a journalist with the Wrexham Evening Leader, Daily Post a’r Liverpool Echo before going to work in television, specialising in investigations with Y Byd ar Bedwar, Taro Naw and Week In Week Out.
 He also worked as a freelance journalist as well as editing Golwg magazine before going over to the dark side in 2007 as a press officer for North Wales Assembly Members in the North.
 He joined Plaid Cymru aged 18 and has been politically active since then as a community activist with the anti-apartheid movement, anti-poll tax campaign and countless local campaigns. He was active in the movement against the wars in Afghanistan and Iraq.
 He has been a member of the National Union of Journalists for 27 years and believes strongly that progressive unions have a central place in a modern Wales.
 He was elected to Wrecsam Council in 2008, when Plaid won a historic breakthrough for the first time ever on that authority. As a councilor he achieved one key election promise in establishing allotments in the ward with 54 plots.
 Despite increasing his vote in 2012, he lost by 50 votes. He currently sits as chair of Caia Park Community Council.
 He founded and chairs the community cooperative that runs Wrecsam’s Welsh centre, Saith Seren. The centre is a permanent legacy of the 2011 National Eisteddfod and has just celebrated its first birthday. It currently employs five people and hopes to expand as building work comes to an end on the first floor.
 Marc Jones says: “Saith Seren has succeeded because of the investment of about 100 people. We haven’t had a penny of public grant. Sometimes that has made things more difficult but, in the long run, everything we have achieved has happened because of the commitment of the members. It shows what is possible when ordinary people do extraordinary things.”
 On top of this he is a trustee of a local mental health charity and a board member of the Wrexham Supporters’ Trust, which owns the local football club and is another great example of people reclaiming their community.
 He says: “By standing as a candidate for Europe, I want to build on my experience of grassroots campaigning to be a community champion for the whole of Wales. I will certainly use my direct knowledge of establishing new enterprises to scrutinise the use of European budgets by public bodies in Wales.”
 He is determined to make a positive difference for Plaid:
 “I first joined Plaid aged 18. I came back to the party mainly because of the influence of politicians like Leanne Wood.
 “I have stood on behalf of Plaid for the Assembly in 2011 and the council on several occasions.
 “Since becoming secretary of the Wrecsam branch, membership has nearly doubled in five years because we are a campaigning grassroots branch that uses older members’ experience and younger members’ enthusiasm in tandem.
 “I believe I can contribute to raising the profile, activity and membership of Plaid here in Wales and in Europe.

THIS IS MARC’S VIEW OF THE EUROPEAN CHALLENGE:

If I can elected to Europe my priorities will be:

• Safeguard CAP payments to Welsh farmers, to secure the viability of our family farms

• Challenge and scrutinise the effectiveness of WEFO, the funding office for European grants

• Be a key part of Plaid’s team here in Wales

• Challenge and scrutinise the heavy-handed bureaucracy of the European Union

Cooperate with other parties to promote the interests of Wales and other similar nations within Europe

For more information contact:
@marc1ewrop

PAM Y DYLECH BLEIDLEISIO DROS MARC JONES


Daw Marc Jones yn enedigol o Sir y Fflint ac mae wedi byw yn Wrecsam ers 30 mlynedd. Mae’i wraig yn nyrsio yn yr ysbyty lleol ac mae ganddynt ddau fab.
 Bu’n gweithio fel newyddiadurwr i’r Wrexham Evening Leader, Daily Post a’r Liverpool Echo cyn mynd i weithio ym myd teledu, gan arbenigo yn y maes ymchwiliadol efo’r Byd ar Bedwar, Taro Naw a Week In Week Out.
 Mae o hefyd wedi gweithio ar ei liwt ei hun a bu’n olygydd ar gylchgrawn Golwg cyn mynd yn swyddog y wasg i Aelod Cynulliad rhanbarthol Plaid Cymru yn y Gogledd yn 2007.
 Ymunodd â Phlaid Cymru yn 18 oed ac mae wedi bod yn wleidyddol weithredol ers hynny fel ymgyrchydd cymunedol gyda’r mudiad gwrth-apartheid, ymgyrch yn erbyn treth y pen ac ymgyrchoedd lleol di-rif. Bu’n weithgar yn yr ymgyrch yn erbyn rhyfeloedd Affganistan ac Irac.
 Mae’n aelod o Undeb y Newyddiadurwyr, yr NUJ, ers 27 mlynedd ac yn credu’n gryf fod lle canolog i undebau yn y Gymru fodern.
 Bu’n aelod o Gyngor Wrecsam rhwng 2008-12, pan lwyddodd y Blaid i ennill pedwar cynghorydd am y tro cyntaf erioed ar yr awdurdod. Tra’n gynghorydd llwyddodd i wireddu addewid maniffesto a chreu 54 o randiroedd newydd yn ei ward.
 Er cynnyddu ei bleidlais yn 2012, collodd o 50 pleidlais. Mae o bellach yn gadeirydd ar gyngor cymuned Parc Caia.
 Bu’n rhan o’r grwp sefydlodd menter gydweithredol Saith Seren yn Wrecsam. sef canolfan Gymraeg i’r dref sydd wedi llwyddo i greu gwaddol barhaol yn sgil Eisteddfod Genedlaethol 2011. Mae’r ganolfan newydd ddathlu ei phenblwydd cyntaf, yn cyflogi pump o bobl ac yn bwriadu ehangu wrth i’r gwaith ar y llawr cyntaf yn dod i ben.
 Dywed Marc Jones: “Mae Saith Seren wedi llwyddo heb geiniog o grant cyhoeddus. Weithiau mae’n gwneud pethau’n fwy anodd ond, yn y pen draw, mae popeth rydan ni wedi ei gyflawni wedi digwydd oherwydd ymroddiad y bobl sydd wedi ymaelodi a buddsoddi. Mae’n dangos beth sy’n bosib pan mae pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin.”
 Mae’r fenter wedi ysbrydoli rhywbeth tebyg yn y Bari.
 Ar ben hyn mae’n ymddiriedolwr elusen iechyd meddwl lleol ac ar fwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, sy’n berchen ar y clwb pêldroed.
 Dywed: “Drwy sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Ewrop, hoffwn adeiladu ar fy mhrofiad lleol o weithredu er mwyn bod yn bencampwr cymunedol dros Gymru gyfan. Byddaf hefyd yn defnyddio fy ngwybodaeth o lansio mentrau newydd er mwyn craffu’n ofalus ar ddefnydd o arian cyhoeddus gan gyrff Ewropeaidd.”
 Mae’n benderfynnol o wneud gwahaniaeth positif i’r Blaid:
 “Ymunais â’r Blaid am y tro cyntaf yn 18 oed. Des i’n ôl i’r Blaid yn bennaf oherwydd dylanwad gwleidyddion fel Leanne Wood.
 “Rydw i wedi sefyll ar ran y Blaid ar gyfer y Cynulliad yn 2011 a’r cyngor sir nifer o weithiau. 
 “Credaf y gallaf gyfrannu at godi proffil, gweithgaredd ac aelodaeth y Blaid yma yng Nghymru ac Ewrop.”

DYMA MAE MARC YN DWEUD AM YR HER EWROPEAIDD

Os caf fy ethol i Ewrop fy mhlaenoriaethau fydd:

• Sicrhau taliadau CAP i ffermwyr Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol i'n ffermydd teuluol

• Herio effeithiolrwydd swyddfa grantiau Ewrop, WEFO

• Bod yn rhan allweddol o dîm y Blaid yma yng Nghymru

• Herio biwrocratiaeth trymaidd y Gymuned Ewropeaidd

Cydweithio a phleidiau eraill er mwyn hyrwyddo achos Cymru a gwledydd tebyg o fewn Ewrop.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch a / For more information contact:
01978 366 735
07747 792 441
@marc1ewrop

Dewch i bleidleisio / Come to the selection meetings


Dewch i’r cyfarfodydd dewis - dyma’r unig ffordd y byddwch yn medru pleidleisio yn yr etholiad yma:
Come to the selection meetings otherwise you will not be able to vote in these elections:

Nos Fercher / Wed 8/5/13
Clwb Rygbi Caerffili Rugby Club, Virginia Park, Caerffili CF83 3JA

Nos Wener / Friday 10/5/13
Theatr Seilo, Allt Pafiliwn, Caernarfon

Nos Lun / Monday 13/5/13
Awelon, Ffordd yr Ysgol/School Rd,, Rhuthun, LL15 1BN

Nos Fercher / Wed15/5/13
Neuadd San Pedr/ St Peter’s Hall, 1 Sgwâr Nott/ Nott Sq, Caerfyrddin, SA31 1PG

Nos Wener / Friday 17/5/13
Morlan, Aberystwyth, SY23 2HH

Nos Wener / Friday 24/5/13
Gwesty’r Village Hotel, SA1, Abertawe / Swansea SA1 8QY

Dydd Sadwrn / Sat 25/5/13
Canolfan yr Urdd, Canolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd
Urdd Centre, Millenium Centre, Cardiff Bay CF10 5AL

Tuesday 12 March 2013

Marc Jones i sefyll am Ewrop / Marc Jones stands for European nomination


Neges oddiwrth Marc 

Rwy'n cynnig fy hun fel ymgeisydd ar ran Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Ewrop flwyddyn nesaf.

Bydd y cyfarfodydd dewis fis Mai - manylion i ddod.

Ymunais â’r Blaid yn 18 oed. Des i’n ôl i’r Blaid wyth mlynedd yn ôl, yn bennaf oherwydd dylanwad gwleidyddion fel Leanne Wood.
 Rydw i wedi sefyll ar ran y Blaid ar gyfer y Cynulliad a’r cyngor sir, gan ennill yn 2008.
 Ers i mi fod yn ysgrifennydd cangen Wrecsam mae’r aelodaeth bron wedi dyblu dros y pum mlynedd diwethaf.

Os caf fy ethol i Ewrop fy mhlaenoriaethau fydd:
• Sicrhau taliadau CAP i ffermwyr Cymru. Mae'r £350 miliwn ddaw o Ewrop yn angenrheidiol i gynnal ffermydd ucheldir Cymru.
• Herio effeithiolrwydd swyddfa grantiau Ewrop, WEFO
• Bod yn rhan allweddol o dîm y Blaid yma yng Nghymru
• Herio biwrocratiaeth trymaidd y Gymuned Ewropeaidd

Os hoffech gefnogi fy ymgeisyddiaeth fel unigolyn, cangen neu etholaeth cysylltwch a mi ar marc1ewrop@gmail.com neu 07747 792 441.

Diolch yn fawr


A message from Marc

I'm putting my name forward as a candidate for Plaid Cymru in the next European elections.

The selection meetings will take place in May - details to follow.

I joined Plaid aged 18. I came back to the party eight years ago, mainly due to the influence of politicians such as Leanne Wood.
 I’ve stood for the party at Assembly level and as a county councillor, winning in 2008. 
 In my time as secretary of the Wrecsam branch, we almost doubled our membership and we continue to punch well beyond our weight.

If elected to Europe, my priorities will be to:
• Ensure CAP payments to Welsh farmers. The £350 million from EU funding is essential for maintaining Welsh upland farms. 
• Challenge the efficiency of the EU grants office, WEFO
• Be an integral part of the Plaid team here in Wales
• Challenge the bureaucracy of the European Community


If you are able to support me as an individual member, branch or constituency please contact me on marc1ewrop@gmail.com or 07747 792 441.

Many thanks