Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe

Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe
ymgyrchu ar y stryd / campaigning on the streets

Friday 22 March 2013

PAM Y DYLECH BLEIDLEISIO DROS MARC JONES


Daw Marc Jones yn enedigol o Sir y Fflint ac mae wedi byw yn Wrecsam ers 30 mlynedd. Mae’i wraig yn nyrsio yn yr ysbyty lleol ac mae ganddynt ddau fab.
 Bu’n gweithio fel newyddiadurwr i’r Wrexham Evening Leader, Daily Post a’r Liverpool Echo cyn mynd i weithio ym myd teledu, gan arbenigo yn y maes ymchwiliadol efo’r Byd ar Bedwar, Taro Naw a Week In Week Out.
 Mae o hefyd wedi gweithio ar ei liwt ei hun a bu’n olygydd ar gylchgrawn Golwg cyn mynd yn swyddog y wasg i Aelod Cynulliad rhanbarthol Plaid Cymru yn y Gogledd yn 2007.
 Ymunodd â Phlaid Cymru yn 18 oed ac mae wedi bod yn wleidyddol weithredol ers hynny fel ymgyrchydd cymunedol gyda’r mudiad gwrth-apartheid, ymgyrch yn erbyn treth y pen ac ymgyrchoedd lleol di-rif. Bu’n weithgar yn yr ymgyrch yn erbyn rhyfeloedd Affganistan ac Irac.
 Mae’n aelod o Undeb y Newyddiadurwyr, yr NUJ, ers 27 mlynedd ac yn credu’n gryf fod lle canolog i undebau yn y Gymru fodern.
 Bu’n aelod o Gyngor Wrecsam rhwng 2008-12, pan lwyddodd y Blaid i ennill pedwar cynghorydd am y tro cyntaf erioed ar yr awdurdod. Tra’n gynghorydd llwyddodd i wireddu addewid maniffesto a chreu 54 o randiroedd newydd yn ei ward.
 Er cynnyddu ei bleidlais yn 2012, collodd o 50 pleidlais. Mae o bellach yn gadeirydd ar gyngor cymuned Parc Caia.
 Bu’n rhan o’r grwp sefydlodd menter gydweithredol Saith Seren yn Wrecsam. sef canolfan Gymraeg i’r dref sydd wedi llwyddo i greu gwaddol barhaol yn sgil Eisteddfod Genedlaethol 2011. Mae’r ganolfan newydd ddathlu ei phenblwydd cyntaf, yn cyflogi pump o bobl ac yn bwriadu ehangu wrth i’r gwaith ar y llawr cyntaf yn dod i ben.
 Dywed Marc Jones: “Mae Saith Seren wedi llwyddo heb geiniog o grant cyhoeddus. Weithiau mae’n gwneud pethau’n fwy anodd ond, yn y pen draw, mae popeth rydan ni wedi ei gyflawni wedi digwydd oherwydd ymroddiad y bobl sydd wedi ymaelodi a buddsoddi. Mae’n dangos beth sy’n bosib pan mae pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin.”
 Mae’r fenter wedi ysbrydoli rhywbeth tebyg yn y Bari.
 Ar ben hyn mae’n ymddiriedolwr elusen iechyd meddwl lleol ac ar fwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, sy’n berchen ar y clwb pêldroed.
 Dywed: “Drwy sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Ewrop, hoffwn adeiladu ar fy mhrofiad lleol o weithredu er mwyn bod yn bencampwr cymunedol dros Gymru gyfan. Byddaf hefyd yn defnyddio fy ngwybodaeth o lansio mentrau newydd er mwyn craffu’n ofalus ar ddefnydd o arian cyhoeddus gan gyrff Ewropeaidd.”
 Mae’n benderfynnol o wneud gwahaniaeth positif i’r Blaid:
 “Ymunais â’r Blaid am y tro cyntaf yn 18 oed. Des i’n ôl i’r Blaid yn bennaf oherwydd dylanwad gwleidyddion fel Leanne Wood.
 “Rydw i wedi sefyll ar ran y Blaid ar gyfer y Cynulliad yn 2011 a’r cyngor sir nifer o weithiau. 
 “Credaf y gallaf gyfrannu at godi proffil, gweithgaredd ac aelodaeth y Blaid yma yng Nghymru ac Ewrop.”

DYMA MAE MARC YN DWEUD AM YR HER EWROPEAIDD

Os caf fy ethol i Ewrop fy mhlaenoriaethau fydd:

• Sicrhau taliadau CAP i ffermwyr Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol i'n ffermydd teuluol

• Herio effeithiolrwydd swyddfa grantiau Ewrop, WEFO

• Bod yn rhan allweddol o dîm y Blaid yma yng Nghymru

• Herio biwrocratiaeth trymaidd y Gymuned Ewropeaidd

Cydweithio a phleidiau eraill er mwyn hyrwyddo achos Cymru a gwledydd tebyg o fewn Ewrop.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch a / For more information contact:
01978 366 735
07747 792 441
@marc1ewrop

No comments:

Post a Comment