Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe

Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe
ymgyrchu ar y stryd / campaigning on the streets

Tuesday 9 April 2013

Cefnogwyr / Supporters


"Mae'n bleser gen i gefnogi Marc fel ymgeisydd ar gyfer Etholiadau Ewrop. Gyda'i brofiad fel Cynghorydd Sir a'i waith ardderchog fel arweinydd yn ei gymuned gyda cynllun Saith Seren fe fyddai'n gynrychiolydd ardderchog i Gymru yn Ewrop."

- y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion

"I’m delighted to support Marc as a candidate for the European election. With his experience as a county councillor and his excellent work as a community leader with the Saith Seren project, he will make an excellent representative for Wales in Europe."

- Councillor Ellen ap Gwynn, leader of Ceredigion Council

+++++

Annwyl Ffrindiau,

Ro’n i’n falch iawn o glywed am ddiddordeb Marc yn ymgeisyddiaeth Ewrop dros Blaid Cymru.

Rwy’n credu ei fod yn ymgeisydd eithriadol o gryf a phrofiadol sydd wedi profi’i hun fel ymgyrchydd llwyddiannus ac ymarferol. Mae ei draed wastad ar y ddaear ac mae’n nabod pobl ar sawl lefel, nid dim ond y dosbarthiadau ymgomio! Mae hefyd yn hynod brofiadol wrth ddelio â’r cyfryngau ac yn gallu crisialu ei neges yn glir ac i’r pwynt. Mae’n ymgeisydd poblogaidd yn lleol sydd eto’n gallu cynnig perspectif cenedlaethol a rhyng-genedlaethol.

Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Marc ac i’r Blaid. Rwy’n disgwyl fod y pleidiau eraill eisoes yn crynu yn eu sgidiau!
Robat Gruffudd, Talybont, Ceredigion

I was very pleased to hear of Marc's interest in standing for Europe on behalf of Plaid Cymru.
I believe he is an exceptionally strong candidate who has proved himself as a successful and pratical campaigner. His feet are solidly on the ground and he knows people on several levels, not just among the chattering classes! He is also very experienced in dealing with the media and can crystalise his message clearly and to the point. He is a popular candidate locally who can offer a national and international perspective.

I wish Marc and Plaid every success. I expect the other parties are already quaking in their boots!

Robat Gruffudd, Talybont, Ceredigion

+++++

"Falch iawn o dy gefnogi ti Marc - ti yw un o wleidyddion pwysica Cymru."

"Very happy to support you Marc - you are one of Wales's most important politicians."

Toni Schiavone, Pandy Tudur

No comments:

Post a Comment