Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe

Dros Gymru yn Ewrop / For Wales in Europe
ymgyrchu ar y stryd / campaigning on the streets

Friday 19 April 2013

Ein gwasanaeth iechyd dan fygythiad dan Lafur

Marc Jones yn annerch torf y tu allan i swyddfa Lesley Griffiths, y gweinidog iechyd ar y pryd, yn Wrecsam.
Mae'n gwasanaeth iechyd dan fygythiad gyda Llafur wrth y llyw. Does dim dwywaith fod bwriad Llywodraeth Lafur Caerdydd i ganoli ac israddio gwasanaethau iechyd lleol am gael effaith andwyol iawn mewn sawl rhan o Gymru. Yn y Gogledd y gwelwyd y broses yn cael rhwydd hynt gan y Llywodraeth, er gwaethaf protestiadau o 1500 yn gorymdeithio drwy'r Fflint, 1200 yn y Blaenau a dros 1000 yn Llandudno. Yn achos gofal dwys i fabanod mae gwasanaethau wedi eu symud i Loegr! 
Daeth grwpiau protest lleol at ei gilydd a llwyddodd Marc Jones a'r Blaid i drefnu nifer o gyfarfodydd cyhoeddus i godi proffeil yr ymgyrch. Un llwyddiant nodedig oedd hoeli'r sylw ar y gweinidog iechyd Lesley Griffiths, yn hytrach na gadael iddi guddio y tu ôl i benderfyniad y bwrdd iechyd lleol.  Yn fuan wedyn, bu raid i'r Prif Weinidog ei symud i swydd arall o fewn ei gabinet. Mae'r neges yn glir - dydi'r NHS ddim yn ddiogel yn nwylo Llafur.
 Bydd rhannau eraill o Gymru yn gweld yr un broses o gwtogi a chanoli gwasanaethau ac os oes unrhyw aelod, gangen neu etholaeth am wybod mwy am yr ymgyrch yn y Gogledd, cysylltwch â marc1ewrop@gmail.com neu 07747 792441.
 

No comments:

Post a Comment